top of page
Search
  • Writer's pictureCatrin Phillips

Noson lansio Gwefan Elfed

Ar ddydd Mercher 25ain o Awst 2021 fe wnaeth gwefan Coffa Elfed cael ei ail lansio yn swyddogol gan y pwyllgor gwaith Coffa Elfed yn ardd Rhydfelen.


Roedd y wefan wreiddiol wedi cael ei golli ar y rhyngrwyd ac felly fe wnaeth gwefan newydd gael ei rhoi at ei gilydd er mwyn rhoi ar gof a chadw digidol bywyd Elfed ac adrodd hanesion Elfed.


Mae mwyafrif o destun ar y wefan yn waith y ddiweddar Miss Muriel Bowen Evans.


Ar y wefan mae nifer o dudalennau yn sôn amdano daith bywyd Elfed; o'i magwraeth ym Mlaen-y-coed, i ddechreuad Elfed yn pregethu yn gapeli Cymru a Lloegr, ei anrhydedd fel Archdderwydd, yn fardd ac yn emynwr. Ar y wefan hefyd mae fideos yn adrodd hanes Elfed, a lluniau rhyngweithiol sy'n dangos beth oedd Y Gangell a Rhydfelen yn edrych fel yn 1960au.


Yn ogystal mae yna tair stori ddifyr yn eiriau Elfed ei hun yn sôn amdano brofiad tyfu i fyny yn gefn gwlad Sir Gaerfyrddin.


Cafwyd lluniaeth ysgafn gan Catrin Phillips gyda'r gwaith technegol dan ofal Cai Phillips.


 

Yn ardd Rhydfelen

Eistedd - Mr Gareth Davies (ymddiriedolwr), Mrs Meinir James (trysorydd), Mrs Linda Davies (ysgrifenyddes), Mrs Ann Sillars (aelod o'r pwyllgor gwaith).

Sefyll - Mr Delme Phillips (cadeirydd), Mr Cai Phillips (aelod o'r pwyllgor gwaith),

Mr John Bowsgill (gofalwr Y Gangell)


16 views1 comment
bottom of page