top of page

Y Gweinidog

 

Derbyniodd Elfed cynifer â 80 o aelodau un prynhawn Sul pan oedd yn weinidog ym Mwcle. Yno hefyd y cyfarfu â’i ddarpar wraig, Mary Taylor. Priododd y ddau yn 1887 pan oedd Elfed wedi symud i’w ail ofalaeth yn Hull. Roedd hithau ddeng mlynedd yn iau na’i gŵr.Yn ystod ei gyfnod o saith mlynedd yng Ngogledd Lloegr dechreuodd Elfed ddychwelyd i bregethu yng Nghymru’n gyson.

 

Yn 1891 derbyniodd alwad i weinidogaethu ar eglwys Saesneg Y Parc, Llanelli. Yn ystod ei gyfnod yno bu galw mawr am ei wasanaeth ymhlith y capeli Cymraeg. Symudodd i Lundain i gymryd gofal o eglwys hynafol Harecourt yn 1898.

kingscross1925-welsh.jpg

Ymhen pedair blynedd symudodd i un o brif gapeli’r Annibynwyr Cymraeg sef Tabernacl, King’s Cross, yng nghanol Llundain ac yno y bu tan ei ymddeoliad yn 1940. Ar un cyfnod roedd dros fil o aelodau o dan ei adain. Magodd yntau a’i wraig saith o blant ond bu Mary farw yn 1918. Ymhen pum mlynedd priododd Elisabeth Lloyd, gwraig weddw a hanai o Ddyffryn Tywi, ond bu hithau hefyd farw yn 1927.

 

Erbyn 1930 collodd Elfed ei olwg yn llwyr ac ofnai y deuai ei waith cyhoeddus i ben am na fedrai deithio ar ei ben ei hun mwyach. Ond y flwyddyn honno priododd Mary Davies, un o’i aelodau, a bu hithau’n gefn iddo weddill ei ddyddiau yn ei alluogi i fyw bywyd llawn.

Gellir rhannu gweinidogaeth Elfed yn King’s Cross yn dair rhan - cyfnod y diwygiad ar ddechrau’r ganrif, cyfnod yr encilio mawr wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf a chyfnod y dirwasgiad yn y 1930au pan heidiai miloedd o Gymry i’r ddinas a’i chyffiniau i chwilio am waith.

Tabernacl-Kings-Cross-weosh.jpg

Gwnaed Elfed yn Gadeirydd Undeb Cynulleidfaol Cymru a Lloegr; yn Gadeirydd Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr yn ogystal ag yn Gadeirydd yr Undeb Cymraeg a Chadeirydd Bwrdd Cenhadol Llundain ar ddau achlysur. 

 

Ystyrir ei gyfrolau o bregethau a homilïau megis Plannu Coed (1894) a Lampau’r Hwyr (1945) yn gyfrolau sy’n rhoi pwys ar y wedd foesol yn hytrach na diwinyddol.

 

Ystyrid ei bregethu delweddol, yn pwysleisio’r wedd ddefosiynol yn hytrach na chyfeirio at ddigwyddiadau’r dydd, yn garreg filltir yn hanes datblygiad pregethu Cymraeg.

elfedonthemed-welsh.jpg
bottom of page