COFFA
ELFED
Y FARI LWYD LAWEN
Cofiaf am un noson felly adeg gwyliau'r Nadolig, yn lled gynnar ym Mhant-y-waun. Yr oedd cwmni difyr o gylch y tân, ond yr oedd dau neu dri yn eisiau y disgwylid, am ryw reswm neilltuol, iddynt fod yno y noson honno. Rhoddodd rhywun esboniad digon tebyg o fod yn wir pam nad oeddynt wedi dod ; ac aeth y siarad ymlaen fel arfer. Ond teimlwn rywfodd nad oedd popeth fel arfer, er na wyddwn ac na allwn egluro pam. Ymddangosai un neu ddau yn anesmwyth ac fel pe'n disgwyl rhywun neu rywbeth. Ac ymhen ychydig dyna sŵn traed wrth y drws, a'i agor. Ond yr oedd rhywun neu rywrai yn cerdded i mewn yn fwy trwstan nag arfer, a sŵn tebyg i weryriad ceffyl. Yr oeddwn yn llygaid i gyd : ac felly'r lleill, ac arwydd o ofn ar y rhan fwyaf ohonom.
Ceffyl yn dod i'r tŷ ? Ie, yn ddiddadl oblegíd y funud nesaf, dyna'i ben yn y golwg yn gyflawn, heibio i dalcen y palis. Dychrynwyd fy mam yn enbyd, a rhai eraill o'r merched oedd yno, beth bynnag am y dynion. Ÿr oeddwn innau mewn dryswch meddwl dwys, yn crynu gan ofn wrth edrych ar fy mam, ond yn colli peth o'r ofn wrth edrych ar fy nhad. Efe oedd agosaf at y palis: cymerodd ei hat, a dododd hi wrth enau'r ceffyl fel pe'n rhoddi ceirch iddo. Gwthiai y creadur ei safn yn awchus, fel y tybiwn i'r hat wâg - a chael ei siomi'n chwerw, ac ysgwyd ei ben. Ónd ni ddôi dimond y pen i'rgolwg. Ac yna aeth chwerthin y rhai oedd yn deall ar led, a gwyddwn cyn pen ychydig o funudau fy mod wedi cael cip ar ran o hen chwarae crefyddol Cymru gynt — Mari Lwyd Lawen. Dyna'r unig dro i mi weld y peth: ac nid oedd ond gweddill bychan o'r chwarae miragl yn yr hen amseroedd.